Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Mawrth 2018
Amser:
09.31 -
14.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4606
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Laura Matthews, Women and Sport Dr Julie Bishop, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Ciaran Humphreys, Iechyd Cyhoeddus Cymru Jackie Gapper, Estyn John Thomas, Arolygwyr Ei Mawrhydi Anwen Griffiths, Arolygwyr Ei Mawrhydi |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Nododd y Pwyllgor y gweithdrefnau ar gyfer Cyfnod 2 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a chytunodd ar ddull gweithredu ar gyfer y drefn o ran ystyried y gwelliannau.
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried y mater hwn maes o law.
3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC a Lynne Neagle AC.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o Women in Sport.
4.2 Cytunodd Laura Matthews i ddarparu rhagor o wybodaeth am y rhaglen DADEE (Dads and Daughters Exercising and Empowered) sy'n cael ei datblygu gan Brifysgol Newcastle, Awstralia.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Estyn.
7.1a Nododd y Pwyllgor Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.
7.2a Nododd y Pwyllgor y nodiadau am waith ymgysylltu mewn perthynas â'i ymchwiliad i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc.
7.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas ag ymchwiliad y Pwyllgor i Atal Hunanladdiad.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.